Next Festival: 1-10 MAY 2026

Inspirational Encounters in Outstanding Places.

The Wye Valley River Festival brings local people, environmentalists and exceptional artists together for a creative exploration  and celebration of an internationally important landscape.

With the Wye Valley as our backdrop, this exceptional landscape, carved by the River Wye, straddling the border of England and Wales, encompasses diverse cultures, habitats, stories and histories. 

Since 2014, our biennial Arts and environmental festival has welcomed people from both sides of the English and Welsh border and beyond; igniting conversations and sharing unforgettable experiences.

Creativity, Community, Ecology and the landscape are our bedrock; we are dedicated to dreaming up and delivering Inspirational Encounters in Outstanding Places.

 We carefully build and co-create our programmes with residents, artists and environmentalists, those who live in or love the Wye – through ongoing collaboration, research and development. We continue to find imaginative ways to understand and interact with the landscape, ecology and cultural heritage of the Wye Valley region. A creative exploration of what is possible.

“It is a very inspiring and imaginative combination that makes you see the world in a different way.”

Over the years, the Festival has gained national recognition, attracting renowned artists and performers while celebrating local talent.

Our next main Festival is scheduled for May 1st to 10th May 2026 with ongoing community projects and engagement leading up to the events.

In addition to the biennial festival WVRF runs a year round programme of outreach and engagement with communities and organisations.

Please consider donating

Your support means we can continue to be ambitious and imaginative in what we do. Every donation allows us to continue to work with brilliant artists, empower local voices and keep our festival free for everyone.

Cyfarfyddiadau Ysbrydoledig mewn Lleoedd Anhygoel.

Daw Gŵyl Afon Dyffryn Gwy â phobl leol, amgylcheddwyr ac artistiaid eithriadol ynghyd am archwiliad a dathliad creadigol o dirwedd sydd o bwys rhyngwladol.

Mae tirwedd eithriadol Dyffryn Gwy, sy’n gefndir i’r ŵyl, ac sydd wedi’i gerfio gan yr afon wrth iddi nadreddu ar hyd ffin Cymru a Lloegr, yn cwmpasu diwylliannau, cynefinoedd, straeon a hanesion amrywiol. 

Ers 2014, mae ein gŵyl gelfyddydol ac amgylcheddol bob dwy flynedd wedi croesawu pobl o ddwy ochr y ffin a thu hwnt, gan danio sgyrsiau a rhannu profiadau bythgofiadwy.

Creadigrwydd, cymuned, ecoleg a’r dirwedd yw ein sylfaen; rydyn ni wedi ymrwymo i freuddwydio am Gyfarfyddiadau Ysbrydoledig mewn Lleoedd Eithriadol a’u darparu.

 Rydyn ni’n llunio ac yn cyd-greu ein rhaglenni’n ofalus gyda thrigolion, artistiaid ac amgylcheddwyr – y rhai sy’n byw yn Nyffryn Gwy neu sy’n ei garu – trwy gydweithio, ymchwilio a datblygu o hyd. Rydyn ni’n parhau i ddod o hyd i ffyrdd dychmygus o ddeall a rhyngweithio â thirwedd, ecoleg a threftadaeth ddiwylliannol Dyffryn Gwy. Archwiliad creadigol o’r hyn sy’n bosibl.

“Mae’n gyfuniad hynod ysbrydoledig a llawn dychymyg sy’n gwneud i chi weld y byd mewn ffordd wahanol.”

Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol, gan ddenu artistiaid a pherfformwyr enwog wrth ddathlu talent lleol.

Cynhelir ein prif ŵyl nesaf rhwng 1 Mai a 10 Mai 2026, gyda phrosiectau cymunedol a gwaith ymgysylltu yn digwydd yn y cyfamser.

Yn ogystal â’r ŵyl bob dwy flynedd, mae WVRF yn cynnal rhaglen allgymorth ac yn meithrin cysylltiadau â chymunedau a sefydliadau drwy gydol y flwyddyn. 

Beth am Gyfrannu?

Mae eich cefnogaeth yn golygu y gallwn barhau i fod yn uchelgeisiol ac yn ddychmygus yn yr hyn a wnawn. Mae pob cyfraniad yn caniatáu inni barhau i weithio gydag artistiaid gwych, grymuso lleisiau lleol, a chadw ein gŵyl yn rhad ac am ddim i bawb.


Join our free mailing list Ymunwch â’n rhestr bostio